Os ydych wedi eich niweidio eich hun yn ddifrifol – er enghraifft, trwy gymryd gorddos o gyffuriau – neu’n teimlo y gallech fod ar fin eich niweidio eich hun, ffoniwch 999 neu ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys ar unwaith. Os na allwch wneud hyn eich hun, gofynnwch i rywun eich helpu.
Os oes arnoch angen help ar frys o ran eich iechyd meddwl, ond nad yw'n argyfwng, ffoniwch 111 neu Galw Iechyd Cymru (0845 46 47).
Ni waeth beth yr ydych yn mynd trwyddo, mae yna bobl y gallwch siarad â nhw unrhyw bryd. Os oes arnoch angen siarad â rhywun ar unwaith, gallwch ffonio'r rhifau canlynol sy'n gyfrinachol ac yn ddi-dâl.
- Mae'r Samariaid ar gael bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd o’r wythnos ar 116 123 (i bawb) ac mae'r Llinell Gymraeg ar gael rhwng 7pm ac 11pm ar 0808 164 0123.
- Ymweld â gwefan
- Mae'r Campaign against living miserably (CALM) ar gael o 5pm tan hanner nos ar 0800 58 58 58
- Ymweld â gwefan
- Mae Papyrus ar gael o 9am tan hanner nos ar 0800 068 4141 (i bobl 35 ac iau)
- Ymweld â gwefan
- Mae SOS (Silence of Suicide) ar gael o 4pm tan hanner nos ar 0330 102 0505 (i bawb)
- Ymweld â gwefan
Os nad ydych am siarad â rhywun dros y ffôn, mae yna linellau negeseuon testun yn agored bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd o’r wythnos.
- Llinell negeseuon testun mewn argyfwng Shout – tecstiwch 'SHOUT' i 85258
- Ymweld â gwefan
- Gwasanaeth negesu mewn argyfwng YoungMinds (i bobl ifanc dan 19 oed) – tecstiwch 'YM' i 85258
- Ymweld â gwefan
Os nad ydych am siarad â rhywun, mae yna wefannau ac apiau hunangymorth defnyddiol ar gael ar gyfer Llesiant Meddyliol.
- Mae Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac adnoddau hunangymorth rhad ac am ddim i'ch helpu i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles.
-
Mae Silver Cloud yn darparu rhaglenni iechyd meddwl a lles digidol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Mae Insight Timer yn darparu mynediad rhad ac am ddim i fyfyrdodau dan arweiniad ar gyfer cwsg, gorbryder a straen.
- Ymweld â gwefan
- Mae SAM (Self-help App for the Mind) yn darparu mynediad rhad ac am ddim i ap a fydd yn eich helpu i reoli gorbryder, iselder ac unigrwydd.
- Ymweld â gwefan
- Mae gwefan SANE yn darparu cymorth iechyd meddwl rhad ac am ddim trwy e-bost, neges destun, a fforymau ar-lein
- Ymweld â gwefan
- Mae Headspace yn darparu myfyrdodau dan arweiniad ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar, yn ogystal â synau i'ch helpu i gysgu a cherddoriaeth i'ch helpu i ganolbwyntio, a hynny trwy danysgrifiad misol.
- Ymweld â gwefan
- Mae Happify yn eich helpu i feithrin sgiliau ar gyfer hapusrwydd parhaol trwy ddefnyddio therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) ac ymwybyddiaeth ofalgar, a hynny trwy danysgrifiad misol.
- Ymweld â gwefan