Mae alcohol yn iselydd sy'n effeithio ar y brif system nerfol sy'n golygu ei fod yn arafu cyflymder eich calon a'ch anadlu. Mae pobl sy'n defnyddio alcohol yn aml yn teimlo'n fwy ymlaciedig, allblyg a siaradus, ac yn profi gwelliant o ran hwyliau a hyder. Mae effeithiau eraill yn cynnwys llewyg, teimlo'n gysglyd, yn ddryslyd ac yn gyfoglyd. Gall hefyd leihau eich swildod ac effeithio ar eich gallu i ymddwyn yn synhwyrol.
Os caiff ei ddefnyddio'n rheolaidd a/neu'n ormodol, gall yfed alcohol arwain at ddibyniaeth.
Gall alcohol effeithio ar lefelau dopamin a serotonin (cemegion yn yr ymennydd sy'n ymwneud â hwyliau, archwaeth a chwsg) a gall wneud i chi deimlo'n orbryderus wrth i'r effeithiau ddiflannu. Gall hyn bara am oriau neu ddyddiau ar ôl bod yn yfed. Gall hefyd effeithio ar batrwm ac ansawdd eich cwsg gan wneud i chi deimlo'n ddiorffwys, ac effeithio ar eich iechyd meddwl mewn modd negyddol.
Mae defnydd aml o alcohol yn arwain at effeithiau hirdymor, gan gynnwys problemau yn ymwneud â'r cof neu ddementia, niwed i’r perfedd, clefyd y galon, niwed i’r afu a chanser.
Isod mae yna awgrymiadau defnyddiol ar gyfer lleihau'r niwed a wneir gan alcohol:
- Os yw rhywun yn ddibynnol ar alcohol ni ddylai stopio yfed yn sydyn gan y gall roi'r gorau i alcohol ar unwaith fod yn angheuol. Ceisiwch leihau faint a yfir yn raddol.
- Cynlluniwch ymlaen llaw, gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o arian ac opsiynau i gyrraedd adref yn ddiogel.
- Bwytewch bryd o fwyd ac yfwch ddigon o ddŵr cyn yfed alcohol. Ceisiwch yfed dŵr rhwng diodydd alcoholaidd i osgoi dadhydradu. Gall hyn hefyd leihau'r effeithiau negyddol drannoeth.
- Dylid osgoi cymysgu alcohol â meddyginiaethau a chyffuriau gan y gall hyn achosi effeithiau peryglus. Cymerwch amser i ymchwilio i'ch meddyginiaethau neu gyflyrau iechyd.
- Defnyddiwch gwpan mesur neu fesurydd gwirodydd i sicrhau dos cywir o alcohol.
- Gall alcohol achosi cyfog a chwydu. Dylech gysgu ar eich ochr i osgoi tagu ar chŵyd yn eich cwsg.
- Meddyliwch am ryw diogel a chydsyniad.
- Gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn sobr ac wedi dadflino'n llwyr cyn gyrru.
- Ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans os gwelwch arwyddion gorddos: dryswch, anymwybyddiaeth, cyfog a chwydu difrifol, ffitiau, anhawster anadlu, arlliw glas/llwyd ar y pengliniau, y dwylo a'r gwefusau, curiad y galon yn araf neu'n anghyson, croen gwelw, oer a llaith.
Defnyddiwch y gyfrifiannell unedau alcohol a chalorïau isod i ddarganfod faint o unedau sydd mewn diodydd penodol, neu i wirio faint yr ydych yn ei yfed.