Yn GDAS, gallwch gael cymorth ac arweiniad gan ein mentoriaid cymheiriaid. Maent yn defnyddio eu profiadau eu hunain i helpu pobl eraill, ac mae llawer ohonynt wedi bod trwy broses adferiad eu hunain, ac eraill, o bosibl, wedi helpu un o'u hanwyliaid mewn sefyllfa debyg.
Gall siarad â rhywun sy'n deall y meddyliau a'r teimladau yr ydych yn eu cael, yn ogystal â'r heriau yr ydych yn eu hwynebu, gynnig gobaith, cryfder ac anogaeth a all wneud newid mawr i'ch taith.
Os ydych yn defnyddio un o'n gwasanaethau ar hyn o bryd ac yr hoffech weithio gyda mentor cymheiriaid, siaradwch ag aelod o staff neu wirfoddolwr. Gall eich helpu i archwilio eich opsiynau.
Mae yna hefyd lawer o opsiynau eraill ar gyfer cael cymorth grŵp. Mae rhai ohonynt yn cynnwys therapi sy'n canolbwyntio ar feddyliau ac ymddygiad, megis adferiad SMART.
Os hoffech ddod yn fentor cymheiriaid, cysylltwch â Claire Thomas ar 07508581831