Gall rhoi i eraill helpu i wella eich llesiant meddyliol trwy greu teimladau cadarnhaol ac ymdeimlad o foddhad, gan roi teimlad o ddiben a hunanwerth i chi, a'ch helpu i gysylltu â phobl eraill. Gall yr holl foddhad a ddaw yn sgil rhoi, gryfhau cydnerthedd cymunedol.
Gall gwirfoddolwyr helpu sefydliadau i wneud y canlynol:
- Defnyddio ystod amrywiol o sgiliau, profiadau, gwybodaeth, safbwyntiau, syniadau a dulliau gweithredu
- Cyrraedd rhagor o fuddiolwyr
- Meithrin ymwybyddiaeth am achos y sefydliad, ei broffil a'r hyn y mae'n ei wneud
- Darparu gwasanaethau effeithlon
- Ymateb yn effeithiol i anghenion lleol
Gellir dod o hyd i'r holl gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael gyda GDAS yma.
Disgrifiad o Rôl Gwirfoddolwr:
Gall rôl Gwirfoddolwr yn GDAS fod yn gyfle amrywiol a chyffrous, a gall gynnwys cymryd rhan ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys Triniaethau; Llesiant ac Adferiad; Gwaith Clinigol a Fferyllol; Cymorth i Deuluoedd; Allgymorth; Cyfiawnder Troseddol; Cyfnewid Nodwyddau a Gwaith Gweinyddol yn y Ganolfan.
Mae'n bwysig i ni ein bod yn paru'r gwirfoddolwr cywir â'r rôl gywir. Mae yna gyfleoedd i wirfoddoli ym mhob agwedd ar wasanaeth GDAS.
Llesiant ac Adferiad:
- Hwyluso neu Gyd-hwyluso Grwpiau Adferiad SMART; cynorthwyo i ddarparu grwpiau Llesiant amrywiol, e.e. grŵp coginio, grŵp celf; grŵp menywod; grwpiau cerdded; grwpiau iechyd a ffitrwydd
- Darparu cymorth i Ddefnyddwyr Gwasanaethau gael mynediad at weithgareddau i'w difyrru
- Mynd gyda staff a defnyddwyr gwasanaethau i gymryd rhan mewn gweithgareddau i ddifyrru
- Hyrwyddo a chydgysylltu gweithgareddau newydd i ddifyrru
- Cynorthwyo defnyddwyr gwasanaethau i fynd i apwyntiadau
- Cynorthwyo i sefydlu a marchnata digwyddiadau cymunedol, a helpu mewn digwyddiadau pan fo hynny'n ymarferol
Allgymorth:
- Cefnogi gweithgarwch allgymorth ac ymgysylltu megis ymweld â chartrefi, allgymorth ar y stryd, a gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cymunedol.
Gwaith Gweinyddol yn y Ganolfan:
- Cynorthwyo i gyflawni dyletswyddau gweinyddol yn y ganolfan: anfon llythyrau/post; cynorthwyo i ffeilio/archifo; cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd; archebu ystafelloedd
- Sicrhau yr ymdrinnir mewn modd prydlon a chwrtais â galwadau ffôn gan asiantaethau allanol, cleientiaid a staff mewnol, gan drosglwyddo galwadau i'r bobl briodol pan fo angen
- Cynorthwyo staff y dderbynfa a staff gweinyddol yn achos ymwelwyr a defnyddwyr gwasanaethau
- Cymryd atgyfeiriadau a ddaw o'n llinell ffôn Un Man Cyswllt
Clinigol:
Mae'r gwasanaethau clinigol yn cynnwys rhoi amnewidion ar bresgripsiwn ar gyfer dibyniaeth ar opiadau, mentrau lleihau niwed gan gynnwys darparu Naloxone i fynd ag ef adref; cynllunio teulu a sgrinio iechyd rhywiol; profi am Feirysau a Gludir yn y Gwaed, ac atgyfeirio i gael cymorth arbenigol. Gall gwirfoddolwyr gymryd rhan yng ngwaith y Fferyllfa yn ein canolfan yng Nghasnewydd. Gellir hyfforddi gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaeth Sgrinio am Feirysau a Gludir yn y Gwaed DBST (Profi Smotyn Gwaed Sych).
Cyfnewid Nodwyddau:
Bydd hyfforddiant perthnasol yn cael ei roi i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn darparu gwasanaeth Cyfnewid Nodwyddau a rhoi cyngor ar Leihau Niwed.
Mae GDAS yn gwerthfawrogi ein Gwirfoddolwyr. Mae gan holl wirfoddolwyr a staff cyflogedig GDAS fynediad cydradd at gyfleoedd hyfforddi. Mae'n gyffredin iawn i Wirfoddolwyr gael gwaith cyflogedig gyda ni.
Mae Datblygiad Proffesiynol yn cynnwys y canlynol:
- Hyfforddiant Ymsefydlu Gorfodol
- Mynediad at Raglen Datblygu'r Gweithlu. Bydd yr holl hyfforddiant perthnasol yn cael ei gynnig gan Dîm Dysgu ac Ymarfer GDAS
- Cynnal a meithrin arbenigedd a gwybodaeth bersonol trwy ddarllen, rhwydweithio ac ymgymryd â hyfforddiant pellach er mwyn datblygu cymhwysedd proffesiynol a chyfrannu at feithrin cymhwysedd yn nhîm GDAS
- Darperir goruchwyliaeth reolaidd gan y Gweithiwr Cyswllt â Gwirfoddolwyr a gan eich Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr a fydd yn cynorthwyo ac yn meithrin y Gwirfoddolwr yn ei rôl