Hunanasesu
I'ch cynorthwyo o ran y llwybr gorau i chi, efallai y bydd yn eich helpu i asesu faint yr ydych yn ei yfed neu hyd a lled eich defnydd o gyffuriau.
Hunangymorth
Mae llawer o bobl yn gallu gwneud newidiadau i'w defnydd o gyffuriau neu alcohol gan ddefnyddio deunyddiau hunangymorth y gellir dod o hyd iddynt yma.
Cymorth Uniongyrchol
Gall cymorth uniongyrchol a thriniaeth strwythuredig ar gyfer cyffuriau neu alcohol fod yn opsiwn gwell – yn enwedig os oes gennych anghenion eraill megis diagnosis o broblem iechyd meddwl. Mae'r opsiwn hwn hefyd yn fwy addas ar gyfer pobl sy'n ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol, ac sy'n mynd trwy broses ddiddyfnu os nad ydynt yn eu cymryd. I gael mynediad at yr opsiwn hwn, cliciwch yma i wneud atgyfeiriad.
Cymorth mewn Argyfwng
Os ydych yn profi argyfwng a bod arnoch angen cymorth ar unwaith, cliciwch yma.
Ffrindiau a Theulu
A ydych yn meddwl bod ar rywun arall angen cymorth o ganlyniad i'ch defnydd o alcohol neu gyffuriau? Os felly, cliciwch yma.
Lleihau'r niwed
Efallai y byddwch am leihau unrhyw niwed yn ymwneud â’ch defnydd o alcohol neu gyffuriau. Cliciwch yma i ddod o hyd i awgrymiadau a gwefannau defnyddiol.
Coleg Llesiant
Efallai y bydd angen i chi ddechrau gwneud gweithgareddau neu chwilio am gymorth o ran eich iechyd meddwl. Mae Coleg Llesiant Gwent, sy'n ddatblygiad newydd, yn cynnig ystod eang o weithgareddau, cyrsiau ac adnoddau, ac mae ar gael yma.