Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent yn darparu cymorth i unigolion a theuluoedd yr effeithir arnynt gan gamddefnydd sylweddau ledled y 5 awdurdod lleol.
Darperir Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent mewn consortiwm gyda thri o ddarparwyr gwasanaethau camddefnydd sylweddau mwyaf Cymru; Kaleidoscope, Barod a G4S. Mae GDAS yn cynrychioli dull partneriaeth gwirioneddol gydweithredol, ystyrlon sy'n hanfodol ar gyfer darparu gwasanaeth rhagorol yng Ngwent.
Egwyddorion craidd GDAS:
- Uniondeb
- Parodrwydd i ddysgu a newid
- Darparu gwasanaeth ymatebol, di-dor
- Ymrwymiad i ddyfalbarhad a gwelliant parhaus.
Mae GDAS yn creu amgylchedd sy'n grymuso, gan alluogi defnyddwyr y gwasanaeth i fod yn uchelgeisiol ynghylch eu Taith i Adferiad, ac wrth gyfuno hynny ag ystod o gymorth a sylfaen gref iawn o gyfranogiad arloesol a chreadigol gan ddefnyddwyr y gwasanaeth, mae'n adeiladu cyfalaf Adfer ar gyfer newid parhaus a dyfodol gwell.